1 Yna dechreuodd Eliasib yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid ailgodi Porth y Defaid; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle, ac atgyweirio hyd at Dŵr y Cant a Thŵr Hananel.
2 Adeiladodd gwŷr Jericho yn ei ymyl, a Sacur fab Imri yn eu hymyl hwythau.
3 Ailgodwyd Porth y Pysgod gan feibion Hasena; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.
4 Yn eu hymyl hwy yr oedd Meremoth fab Ureia fab Cos yn atgyweirio, ac yn ei ymyl ef Mesulam, fab Berecheia, fab Mesesabel, ac yn ei ymyl yntau yr oedd Sadoc fab Bana yn atgyweirio.
5 Y Tecoiaid oedd yn atgyweirio yn eu hymyl hwy, ond nid oedd eu pendefigion yn fodlon gwasanaethu meistriaid.