14 Hwy hefyd a atgyweiriodd y mur am fil o gufyddau hyd at Borth y Dom. Ond atgyweiriwyd Porth y Dom gan Malacheia fab Rechab, rheolwr rhanbarth Beth-hacerem; fe'i hailgododd a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.
15 Atgyweiriwyd Porth y Ffynnon gan Salum fab Colchose, rheolwr rhanbarth Mispa; fe'i hailgododd a rhoi to arno a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau; cododd fur Pwll Selach wrth ardd y brenin hyd at y grisiau sy'n arwain i lawr o Ddinas Dafydd.
16 Ar ei ôl ef atgyweiriodd Nehemeia fab Asbuc, rheolwr hanner rhanbarth Beth-sur, hyd at le gyferbyn â mynwent Dafydd a hyd at Bwll y Gloddfa ac at Dŷ'r Cedyrn.
17 Ar ei ôl ef atgyweiriodd y Lefiaid: Rehum fab Bani, ac yn ei ymyl Hasabeia, rheolwr hanner rhanbarth Ceila, yn atgyweirio ei ran ei hun.
18 Ar ei ôl ef atgyweiriodd eu brodyr, Bafai fab Henadad, rheolwr ail ranbarth Ceila.
19 Yn ei ymyl ef yr oedd Eser fab Jesua, rheolwr Mispa, yn atgyweirio dwy ran gyferbyn â'r allt at dŷ'r arfau, wrth y drofa.
20 Ar ei ôl ef atgyweiriodd Baruch fab Sabai ddwy ran, o'r drofa hyd at ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad.