17 Ar ei ôl ef atgyweiriodd y Lefiaid: Rehum fab Bani, ac yn ei ymyl Hasabeia, rheolwr hanner rhanbarth Ceila, yn atgyweirio ei ran ei hun.
18 Ar ei ôl ef atgyweiriodd eu brodyr, Bafai fab Henadad, rheolwr ail ranbarth Ceila.
19 Yn ei ymyl ef yr oedd Eser fab Jesua, rheolwr Mispa, yn atgyweirio dwy ran gyferbyn â'r allt at dŷ'r arfau, wrth y drofa.
20 Ar ei ôl ef atgyweiriodd Baruch fab Sabai ddwy ran, o'r drofa hyd at ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad.
21 Ar ei ôl ef atgyweiriodd Meremoth fab Ureia fab Cos ddwy ran, o ddrws tŷ Eliasib hyd at dalcen ei dŷ.
22 Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd yr offeiriaid oedd yn byw yn y gymdogaeth.
23 Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Benjamin a Hasub gyferbyn â'u tŷ eu hunain. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Asareia fab Maaseia, fab Ananeia, gyferbyn â'i dŷ ei hun.