22 Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd yr offeiriaid oedd yn byw yn y gymdogaeth.
23 Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Benjamin a Hasub gyferbyn â'u tŷ eu hunain. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Asareia fab Maaseia, fab Ananeia, gyferbyn â'i dŷ ei hun.
24 Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Binnui fab Henadad ddwy ran, o dŷ Asareia hyd at y drofa a'r gongl.
25 Palal fab Usai oedd yn atgyweirio gyferbyn â'r drofa a'r tŵr sy'n codi o dŷ uchaf y brenin ac yn perthyn i gyntedd y gwarchodlu. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Pedaia fab Paros
26 a gweision y deml oedd yn byw yn Offel hyd at le gyferbyn â Phorth y Dŵr i'r dwyrain o'r tŵr uchel.
27 Ar eu hôl hwy atgyweiriodd y Tecoiaid ddwy ran gyferbyn â'r tŵr mawr uchel hyd at fur Offel.
28 O Borth y Meirch yr offeiriaid oedd yn atgyweirio, pob un gyferbyn â'i dŷ.