29 Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Sadoc fab Immer gyferbyn â'i dŷ. Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd Semaia fab Sechaneia, ceidwad Porth y Dwyrain.
30 Ar ei ôl ef atgyweiriodd Hananeia fab Selemeia a Hanun, chweched mab Salaff, ddwy ran. Ar ei ôl yntau atgyweiriodd Mesulam fab Berecheia gyferbyn â'i lety.
31 Ar ei ôl ef atgyweiriodd Malcheia, y gof aur, hyd at dŷ'r Nethiniaid a'r marchnatwyr, gyferbyn â Phorth y Cynnull hyd at yr oruwchystafell ar y gongl.
32 A rhwng yr oruwchystafell ar y gongl a Phorth y Defaid yr oedd y gofaint aur a'r marchnatwyr yn atgyweirio.