1 Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn ymgasglodd yr Israeliaid i ymprydio, gan wisgo sachliain a rhoi pridd ar eu pennau.
2 Ymneilltuodd y rhai oedd o linach Israel oddi wrth bob dieithryn, a sefyll a chyffesu eu pechodau a chamweddau eu hynafiaid.
3 Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw.
4 Safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani a Chenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw.
5 A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, “Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb:“Bendithier dy enw gogoneddussy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant.
6 Ti yn unig wyt ARGLWYDD.Ti a wnaeth y nefoedd,nef y nefoedd a'i holl luoedd,y ddaear a'r cwbl sydd arni,y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt;ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd,ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.
7 Ti yw yr ARGLWYDD Dduw,ti a ddewisodd Abrama'i dywys o Ur y Caldeaid,a rhoi iddo'r enw Abraham;