15 Yn eu newyn rhoddaist iddynt fara o'r nefoedd,a thynnu dŵr o'r graig iddynt yn eu syched.Dywedaist wrthynt am fynd i feddiannu'r wlady tyngaist ti i'w rhoi iddynt.
16 “Ond aethant hwy, ein hynafiaid, yn falch ac yn ystyfnig,a gwrthod gwrando ar dy orchmynion.
17 Gwrthodasant wrando,ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodaua wnaethost iddynt.Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydder mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft.Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau,yn raslon a thrugarog,araf i ddigio a llawn ffyddlondeb,ac ni wrthodaist hwy.
18 Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud,‘Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft’,a chablu'n ddirfawr,
19 yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch.Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwla'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd,na'r golofn dân liw nos,a oleuai'r ffordd a dramwyent.
20 Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo;nid ateliaist dy fanna rhagddynt;rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched.
21 Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwchheb fod arnynt eisiau dim;nid oedd eu dillad yn treuliona'u traed yn chwyddo.