28 Ond pan gawsant lonydd,dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg.Gadewaist hwy i'w gelynion,a chawsant eu mathru.Unwaith eto galwasant arnat,a gwrandewaist tithau o'r nefoedd,a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.
29 Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith,ond aethant yn falcha gwrthod ufuddhau i'th orchmynion;pechasant yn erbyn dy farnausydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw.Troesant eu cefnau'n ystyfnig,a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.
30 Buost yn amyneddgar â hwyam flynyddoedd lawer,a'u rhybuddio â'th ysbrydtrwy dy broffwydi,ond ni wrandawsant;am hynny rhoddaist hwy yn nwylo pobloedd estron.
31 Ond yn dy drugaredd fawrni ddifethaist hwy yn llwyr na'u gadael,oherwydd Duw graslon a thrugarog wyt ti.
32 “Yn awr, O ein Duw,y Duw mawr, cryf ac ofnadwy,sy'n cadw cyfamod a thrugaredd,paid â diystyru'r holl drybini a ddaeth arnom—ar ein brenhinoedd a'n tywysogion,ein hoffeiriaid a'n proffwydi a'n hynafiaid,ac ar dy holl bobl—o gyfnod brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.
33 Buost ti yn gyfiawnyn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni;buost ti yn ffyddlon,ond buom ni yn ddrwg.
34 Ni chadwodd ein brenhinoedd na'n tywysogion,ein hoffeiriaid na'n hynafiaid, dy gyfraith;ni wrandawsant ar dy orchmynion,nac ar y rhybuddion a roddaist iddynt.