Datguddiad 11 BCN

Y Ddau Dyst

1 Rhoddwyd imi wialen yn ffon fesur, a dywedwyd wrthyf: “Cod a mesura deml Duw a'r allor a'r addolwyr ynddi.

2 Ond anwybydda gyntedd allanol y deml; paid â mesur hwnnw, oherwydd fe'i rhoddwyd i'r Cenhedloedd, ac fe sathrant hwy'r ddinas sanctaidd am ddeufis a deugain.

3 Ac fe roddaf i'm dau dyst gennad i broffwydo mewn gwisg sachliain am y deuddeg cant a thrigain hyn o ddyddiau.”

4 Dyma'r ddwy olewydden a'r ddau ganhwyllbren sy'n sefyll gerbron Arglwydd y ddaear.

5 Os myn unrhyw un wneud niwed iddynt, daw tân allan o'u genau a difa'u gelynion; yn y modd hwn y bydd yn rhaid lladd unrhyw un a fyn wneud niwed iddynt.

6 Y mae gan y rhain awdurdod i gau'r nefoedd fel na bydd i law syrthio yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i'w troi'n waed ac i daro'r ddaear â phob pla mor aml ag y mynnant.

7 Wedi iddynt orffen eu tystiolaeth, bydd y bwystfil sy'n codi o'r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn, yn eu gorchfygu a'u lladd.

8 Bydd eu cyrff yn strydoedd y ddinas fawr a elwir yn ffigurol yn Sodom a'r Aifft; yno hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd.

9 Am dri diwrnod a hanner, bydd rhai o blith pobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu rhoi mewn bedd.

10 A llawenha trigolion y ddaear trostynt a gorfoleddant, gan anfon rhoddion i'w gilydd; oherwydd bu'r ddau broffwyd hyn yn boenedigaeth i drigolion y ddaear.

11 Ond wedi'r tri diwrnod a hanner, daeth anadl einioes oddi wrth Dduw i mewn iddynt; safasant ar eu traed, a daeth ofn mawr ar y rhai oedd yn eu gwylio.

12 Yna clywsant lais uchel o'r nef yn dweud wrthynt, “Dewch i fyny yma.” Ac aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl, a'u gelynion yn eu gwylio.

13 Yr awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o'r ddinas. Lladdwyd saith mil o bobl yn y daeargryn, a brawychwyd y gweddill a rhoesant ogoniant i Dduw'r nef.

14 Aeth yr ail wae heibio; wele'r trydydd gwae yn dod ar fyrder.

Y Seithfed Utgorn

15 Seiniodd y seithfed angel ei utgorn. Yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dweud:“Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef,a bydd yn teyrnasu byth bythoedd.”

16 A dyma'r pedwar henuriad ar hugain, sy'n eistedd ar eu gorseddau gerbron Duw, yn syrthio ar eu hwynebau ac yn addoli Duw

17 gan ddweud:“Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw hollalluog,yr hwn sydd a'r hwn oedd,am iti feddiannu dy allu mawra dechrau teyrnasu.

18 Llidiodd y cenhedloedd,a daeth dy ddigofaintac amser barnu'r meirw,a rhoi eu gwobr i'th weision y proffwydi,ac i'r saint ac i'r rhai sy'n ofni dy enw,yn fach a mawr,yr amser i ddinistrio'r rhai sy'n dinistrio'r ddaear.”

19 Agorwyd teml Duw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod yn ei deml ef; yna bu fflachiadau mellt a sŵn taranau a daeargryn a chenllysg mawr.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22