Datguddiad 13 BCN

Y Ddau Fwystfil

1 A gwelais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar bob un o'i bennau enw cableddus.

2 Yr oedd y bwystfil a welais yn debyg i lewpard, ond ei draed fel traed arth a'i enau fel genau llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a'i gorsedd ac awdurdod mawr.

3 Yr oedd un o'i bennau fel pe bai wedi cael ergyd farwol, ond yr oedd ei glwyf marwol wedi ei iacháu. Aeth yr holl fyd ar ôl y bwystfil yn llawn rhyfeddod,

4 ac addoli'r ddraig am iddi roi'r awdurdod i'r bwystfil, ac addoli'r bwystfil hefyd gan ddweud, “Pwy sydd debyg i'r bwystfil, a phwy all ryfela yn ei erbyn ef?”

5 Rhoddwyd i'r bwystfil enau i draethu ymffrost a chabledd, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddeufis a deugain.

6 Agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw a'i breswylfa ef, sef y rhai sy'n preswylio yn y nef.

7 Rhoddwyd hawl iddo hefyd i ryfela yn erbyn y saint a'u gorchfygu hwy, a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl.

8 Bydd holl drigolion y ddaear yn ei addoli ef, pob un nad yw ei enw'n ysgrifenedig er seiliad y byd yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd.

9 Os oes gan rywun glust, gwrandawed:

10 “Os yw rhywun i'w gaethiwo,fe'i caethiwir.Os yw rhywun i'w ladd â'r cleddyf,fe'i lleddir â'r cleddyf.”Yma y mae angen dyfalbarhad a ffydd y saint.

11 Gwelais fwystfil arall yn codi allan o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, ond yn llefaru fel draig.

12 Yr oedd ganddo holl awdurdod y bwystfil cyntaf, i'w arfer ar ei ran. Gwnaeth i'r ddaear a'i thrigolion addoli'r bwystfil cyntaf, hwnnw yr iachawyd ei glwyf marwol.

13 Gwnaeth arwyddion mawr, gan beri hyd yn oed i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear gerbron pawb.

14 Twyllodd drigolion y ddaear trwy'r arwyddion y rhoddwyd iddo hawl i'w cyflawni ar ran y bwystfil, gan ddweud wrth drigolion y ddaear am wneud delw i'r bwystfil a glwyfwyd â'r cleddyf ac a ddaeth yn fyw.

15 Rhoddwyd iddo hawl i roi anadl i ddelw'r bwystfil, er mwyn i ddelw'r bwystfil lefaru a pheri lladd pob un nad addolai ddelw'r bwystfil.

16 Parodd y bwystfil i bawb, yn fach a mawr, yn gyfoethog a thlawd, yn rhydd a chaeth, dderbyn nod ar eu llaw dde neu ar eu talcen,

17 ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.

18 Yma y mae angen doethineb: bydded i'r sawl sydd ganddo ddeall ystyried rhif y bwystfil, oherwydd rhif rhywun dynol ydyw; a'i rif ef yw chwe chant chwe deg a chwech.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22