Datguddiad 5 BCN

Y Sgrôl a'r Oen

1 A gwelais yn llaw dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd sgrôl a'i hysgrifen ar yr wyneb ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl.

2 A gwelais angel nerthol yn cyhoeddi â llef uchel, “Pwy sydd deilwng i agor y sgrôl ac i ddatod ei seliau?”

3 Nid oedd neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear a allai agor y sgrôl nac edrych arni.

4 Yr oeddwn i'n wylo'n hidl am na chafwyd neb yn deilwng i agor y sgrôl nac i edrych arni.

5 A dywedodd un o'r henuriaid wrthyf, “Paid ag wylo; wele, y mae'r Llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, wedi gorchfygu ac ennill yr hawl i agor y sgrôl a'i saith sêl.”

6 Gwelais Oen yn sefyll yn y canol, gyda'r pedwar creadur byw, rhwng yr orsedd a'r henuriaid. Yr oedd yr Oen fel un wedi ei ladd, ac yr oedd ganddo saith o gyrn a saith o lygaid; y rhain yw saith ysbryd Duw, sydd wedi eu hanfon i'r holl ddaear.

7 Daeth yr Oen a chymryd y sgrôl o law dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd.

8 Ac wedi iddo gymryd y sgrôl, syrthiodd y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, ac yr oedd gan bob un ohonynt delyn, a ffiolau aur yn llawn o arogldarth; y rhain yw gweddïau'r saint.

9 Ac yr oeddent yn canu cân newydd fel hyn:“Teilwng wyt ti i gymryd y sgrôlac i agor ei seliau,oherwydd ti a laddwyd ac a brynaist i Dduw â'th waedrai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl,

10 a gwnaethost hwy yn urdd frenhinol ac yn offeiriaid i'n Duw ni;ac fe deyrnasant hwy ar y ddaear.”

11 Yna edrychais a chlywais lais angylion lawer; yr oeddent o amgylch yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid. A'u rhif oedd myrdd myrddiynau a miloedd ar filoedd.

12 Meddent â llef uchel:“Teilwng yw'r Oen a laddwyd i dderbyngallu, cyfoeth, doethineb a nerth,anrhydedd, gogoniant a mawl.”

13 A chlywais bob peth a grewyd, yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac ar y môr, a'r cwbl sydd ynddynt, yn dweud:“I'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd ac i'r Oeny bo'r mawl a'r anrhydedd a'r gogoniant a'r nerthbyth bythoedd!”

14 A dywedodd y pedwar creadur byw, “Amen”; a syrthiodd yr henuriaid i lawr ac addoli.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22