1 Clywais lais uchel o'r deml yn dweud wrth y saith angel, “Ewch ac arllwyswch ar y ddaear saith ffiol llid Duw.”
2 Aeth y cyntaf ac arllwys ei ffiol ar y ddaear; a chododd cornwydydd drwg a phoenus ar y rhai yr oedd nod y bwystfil arnynt ac a oedd yn addoli ei ddelw.
3 Arllwysodd yr ail ei ffiol i'r môr; a throes y môr yn debyg i waed corff marw, a bu farw popeth byw oedd yn y môr.
4 Arllwysodd y trydydd ei ffiol i'r afonydd ac i ffynhonnau'r dyfroedd; a throesant yn waed.
5 Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud:“Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un,yn y barnedigaethau hyn.
6 Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi,rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed;dyma eu haeddiant.”
7 Yna clywais yr allor yn dweud:“Ie, O Arglwydd Dduw hollalluog,gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau.”
8 Arllwysodd y pedwerydd angel ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo hawl i losgi pobl â thân.
9 Llosgwyd pobl yn enbyd, ond cablu a wnaethant enw Duw, yr hwn sydd ganddo awdurdod ar y plâu hyn; ni bu'n edifar ganddynt ac ni roesant ogoniant iddo.
10 Arllwysodd y pumed ei ffiol ar orsedd y bwystfil; a daeth tywyllwch ar ei deyrnas ef. Yr oedd pobl yn cnoi eu tafodau gan boen,
11 ac yn cablu enw Duw'r nef o achos eu poenau a'u cornwydydd, ond ni bu'n edifar ganddynt am eu gweithredoedd.
12 Arllwysodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, afon Ewffrates; a sychodd ei dyfroedd hi i baratoi ffordd i'r brenhinoedd o'r dwyrain.
13 Gwelais yn dod allan o enau'r ddraig ac o enau'r bwystfil ac o enau'r gau broffwyd dri ysbryd aflan, tebyg i lyffaint;
14 oherwydd ysbrydion cythreulig oeddent, yn gwneud arwyddion gwyrthiol. Ac aethant allan at frenhinoedd yr holl fyd i'w casglu ynghyd i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog.
15 (Wele, rwy'n dod fel lleidr. Gwyn ei fyd y sawl sy'n effro, a'i ddillad ganddo'n barod, rhag iddo fynd o amgylch yn noeth a'i weld yn ei warth.)
16 Ac felly casglasant y brenhinoedd ynghyd i'r lle a elwir mewn Hebraeg, Armagedon.
17 Arllwysodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llais uchel o'r deml, o'r orsedd, yn dweud, “Y mae'r cwbl ar ben!”
18 Yna bu fflachiadau mellt a sŵn taranau; bu hefyd ddaeargryn mawr, na ddigwyddodd ei debyg o'r blaen yn hanes y ddynolryw ar y ddaear gan mor fawr ydoedd.
19 Holltwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a syrthiodd dinasoedd y cenhedloedd. Cofiodd Duw Fabilon fawr, a rhoi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint.
20 Ciliodd pob ynys, a diflannodd y mynyddoedd o'r golwg.
21 Ac ar bobl disgynnodd o'r awyr genllysg mawr, yn pwyso tua phedwar cilogram ar ddeg ar hugain yr un; ond cablu Duw a wnaethant am bla'r cenllysg, gan mor llym oedd y pla hwnnw.