15 Poerodd y sarff o'i genau afon o ddŵr ar ôl y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif.
16 Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau.
17 Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu.
18 Ac yna safodd ar dywod y môr.