6 Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau.
7 Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau,
8 ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef.
9 Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.
10 Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud:“Hon yw awr gwaredigaeth a gallua brenhiniaeth ein Duw ni,ac awdurdod ei Grist ef,oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr,yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
11 Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oena thrwy air eu tystiolaeth,yn ddibris o'u bywyd hyd angau.
12 Am hynny, gorfoleddwch, chwi'r nefoedd,a chwi sy'n preswylio ynddynt!Gwae chwi'r ddaear a'r môr,oherwydd disgynnodd y diafol arnochyn fawr ei lid,o wybod mai byr yw'r amser sydd ganddo!”