11 Bydd mwg eu poenedigaeth yn codi byth bythoedd, ac ni bydd gorffwys na dydd na nos i'r rhai sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, nac i'r rhai sy'n derbyn nod ei enw ef.”
12 Yma y mae angen dyfalbarhad y saint, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw a'u ffydd yn Iesu.
13 Yna clywais lais o'r nef yn dweud, “Ysgrifenna: ‘O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy'n marw yn yr Arglwydd.’ ‘Ie,’ medd yr Ysbryd, ‘cânt orffwys o'u llafur, oherwydd y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwy.’ ”
14 Yna edrychais, ac wele gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl un fel mab dyn, a chanddo goron aur ar ei ben a chryman miniog yn ei law.
15 Daeth angel arall allan o'r deml, yn galw â llais uchel ar yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Bwrw dy gryman i'r fedel, oherwydd daeth yr awr i fedi; y mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed.”
16 A dyma'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl yn bwrw ei gryman i'r ddaear, a medwyd y ddaear.
17 Daeth angel arall allan o'r deml yn y nef, a chanddo yntau gryman miniog.