2 Clywais lais o'r nef fel sŵn llawer o ddyfroedd ac fel sŵn taran fawr. Yr oedd y llais a glywais fel sain telynorion yn canu eu telynau.
3 Yr oeddent yn canu cân newydd gerbron yr orsedd a cherbron y pedwar creadur byw a'r henuriaid; ni allai neb ddysgu'r gân ond y cant pedwar deg a phedair o filoedd, y rhai oedd wedi eu prynu oddi ar y ddaear.
4 Dyma'r rhai sydd heb eu halogi eu hunain â merched, oherwydd diwair ydynt. Dyma'r rhai sy'n dilyn yr Oen i ble bynnag yr â. Prynwyd hwy o blith y ddynoliaeth, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen;
5 ni chafwyd celwydd yn eu genau; y maent yn ddi-fai.
6 Yna gwelais angel arall yn hedfan yng nghanol y nef, a chanddo efengyl dragwyddol i'w chyhoeddi i breswylwyr y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl.
7 Dywedodd â llais uchel, “Ofnwch Dduw, a rhowch iddo ogoniant, oherwydd daeth yr awr iddo farnu. Addolwch yr hwn a wnaeth nef a daear, y môr a ffynhonnau'r dyfroedd.”
8 Dilynodd angel arall, yr ail, a dweud, “Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr, y ddinas honno sydd wedi peri i'r holl genhedloedd yfed gwin llid ei phuteindra.”