5 ni chafwyd celwydd yn eu genau; y maent yn ddi-fai.
6 Yna gwelais angel arall yn hedfan yng nghanol y nef, a chanddo efengyl dragwyddol i'w chyhoeddi i breswylwyr y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl.
7 Dywedodd â llais uchel, “Ofnwch Dduw, a rhowch iddo ogoniant, oherwydd daeth yr awr iddo farnu. Addolwch yr hwn a wnaeth nef a daear, y môr a ffynhonnau'r dyfroedd.”
8 Dilynodd angel arall, yr ail, a dweud, “Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr, y ddinas honno sydd wedi peri i'r holl genhedloedd yfed gwin llid ei phuteindra.”
9 Dilynodd angel arall hwy, y trydydd, a dweud â llais uchel, “Pwy bynnag sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law,
10 caiff yfed gwin llid Duw, wedi ei arllwys yn ei lawn gryfder i gwpan ei ddigofaint, a chaiff ei boenydio mewn tân a brwmstan gerbron angylion sanctaidd a cherbron yr Oen.
11 Bydd mwg eu poenedigaeth yn codi byth bythoedd, ac ni bydd gorffwys na dydd na nos i'r rhai sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, nac i'r rhai sy'n derbyn nod ei enw ef.”