1 Ar ôl hyn clywais sŵn fel llais uchel tyrfa fawr yn y nef yn dweud:“Halelwia!Eiddo ein Duw ni y waredigaeth a'r gogoniant a'r gallu,
2 oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef,gan iddo farnu'r butain fawra lygrodd y ddaear â'i phuteindra,a dial gwaed ei weisionarni hi.”
3 A dywedasant eilwaith:“Halelwia!Bydd ei mwg hi'n codi byth bythoedd.”
4 Syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac addoli Duw, yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, a dweud:“Amen! Halelwia!”