18 cewch fwyta cnawd brenhinoedd, cnawd cadfridogion, cnawd y cryfion, cnawd ceffylau a'u marchogion, a chnawd pawb, yn rhyddion ac yn gaethion, yn fach ac yn fawr.”
19 Gwelais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd, wedi ymgasglu i ryfela yn erbyn marchog y ceffyl a'i fyddin.
20 Daliwyd y bwystfil, ac ynghyd ag ef y gau broffwyd oedd wedi gwneud arwyddion gwyrthiol o'i flaen i dwyllo'r rhai oedd wedi derbyn nod y bwystfil ac addoli ei ddelw ef. Bwriwyd y ddau yn fyw i'r llyn tân oedd yn llosgi â brwmstan.
21 Lladdwyd y gweddill â'r cleddyf oedd yn dod allan o enau marchog y ceffyl, a chafodd yr holl adar eu gwala o'u cnawd hwy.