5 A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw ni,chwi ei holl weision ef,a'r rhai sy'n ei ofni ef,yn fach a mawr.”
6 A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud:“Halelwia!Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog,wedi dechrau teyrnasu.
7 Llawenhawn a gorfoleddwn,a rhown iddo'r gogoniant,oherwydd daeth dydd priodas yr Oen,ac ymbaratôdd ei briodferch ef.
8 Rhoddwyd iddi hi i'w wisgoliain main disglair a glân,oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.”
9 Dywedodd yr angel wrthyf, “Ysgrifenna: ‘Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.’ ” Dywedodd wrthyf hefyd, “Dyma wir eiriau Duw.”
10 Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.”
11 Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela.