3 Clywais lais uchel o'r orsedd yn dweud, “Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt.
4 Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”
5 Yna dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd, “Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.” Dywedodd hefyd, “Ysgrifenna, oherwydd dyma eiriau ffyddlon a gwir.”
6 A dywedodd wrthyf, “Y mae'r cwbl ar ben! Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. Rhoddaf fi i'r sychedig ddiod yn rhodd o ffynnon dŵr y bywyd.
7 Caiff y rhai sy'n gorchfygu etifeddu'r pethau hyn; byddaf yn Dduw iddynt, a byddant hwythau'n blant i mi.
8 Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”
9 Daeth un o'r saith angel oedd â'r saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, a siaradodd â mi. “Tyrd,” meddai, “dangosaf iti'r briodferch, gwraig yr Oen.”