5 Yna dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd, “Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.” Dywedodd hefyd, “Ysgrifenna, oherwydd dyma eiriau ffyddlon a gwir.”
6 A dywedodd wrthyf, “Y mae'r cwbl ar ben! Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. Rhoddaf fi i'r sychedig ddiod yn rhodd o ffynnon dŵr y bywyd.
7 Caiff y rhai sy'n gorchfygu etifeddu'r pethau hyn; byddaf yn Dduw iddynt, a byddant hwythau'n blant i mi.
8 Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”
9 Daeth un o'r saith angel oedd â'r saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, a siaradodd â mi. “Tyrd,” meddai, “dangosaf iti'r briodferch, gwraig yr Oen.”
10 Ac aeth â mi ymaith yn yr Ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi'r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw,
11 a gogoniant Duw ganddi. Yr oedd ei llewyrch fel llewyrch gem dra gwerthfawr, fel maen iasbis, yn disgleirio fel grisial.