19 Yr wyf fi'n ceryddu ac yn disgyblu'r rhai a garaf; bydd selog, felly, ac edifarha.
20 Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda'n gilydd.
21 I'r sawl sy'n gorchfygu y rhof yr hawl i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orsedd ef.
22 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”