5 Y sawl sy'n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef.
6 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”
7 Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia, ysgrifenna:“Dyma y mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud,“yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo,yr hwn sy'n agor, ac ni fydd neb yn cau,ac yn cau, a neb yn agor:
8 “Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw.
9 Wele, rhoddaf iti rai o synagog Satan sydd yn eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly; dweud celwydd y maent. Wele, gwnaf iddynt ddod ac ymgrymu wrth dy draed, a chael gwybod i mi dy garu di.
10 Am iti gadw fy ngair i ddyfalbarhau, byddaf finnau yn dy gadw di rhag awr y prawf sydd ar ddod ar yr holl fyd i brofi trigolion y ddaear.
11 Yr wyf yn dod yn fuan; glyna wrth yr hyn sydd gennyt, rhag i neb ddwyn dy goron di.