8 “Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw.
9 Wele, rhoddaf iti rai o synagog Satan sydd yn eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly; dweud celwydd y maent. Wele, gwnaf iddynt ddod ac ymgrymu wrth dy draed, a chael gwybod i mi dy garu di.
10 Am iti gadw fy ngair i ddyfalbarhau, byddaf finnau yn dy gadw di rhag awr y prawf sydd ar ddod ar yr holl fyd i brofi trigolion y ddaear.
11 Yr wyf yn dod yn fuan; glyna wrth yr hyn sydd gennyt, rhag i neb ddwyn dy goron di.
12 Y sawl sy'n gorchfygu, fe'i gwnaf yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac nid â allan oddi yno byth. Ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw i—ac enw dinas fy Nuw i, y Jerwsalem newydd sy'n disgyn o'r nef oddi wrth fy Nuw i—a'm henw newydd i.
13 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”
14 Ac at angel yr eglwys yn Laodicea, ysgrifenna:“Dyma y mae'r Amen, y tyst ffyddlon a gwir, a dechreuad creadigaeth Duw, yn ei ddweud: