1 Ar ôl hyn edrychais, ac wele ddrws wedi ei agor yn y nef; a dyma'r llais, a glywswn gyntaf yn llefaru wrthyf fel sŵn utgorn, yn dweud, “Tyrd i fyny yma, a dangosaf iti'r pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar ôl hyn.”
2 Ar unwaith, yr oeddwn yn yr Ysbryd; ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd.
3 Yr oedd hwn yn debyg ei olwg i faen iasbis a sardion, ac o amgylch yr orsedd yr oedd enfys debyg i emrallt.
4 O amgylch yr orsedd yr oedd hefyd bedair gorsedd ar hugain, ac ar y rhain bedwar henuriad ar hugain yn eistedd mewn dillad gwyn, ac ar eu pennau goronau aur.