1 A gwelais yn llaw dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd sgrôl a'i hysgrifen ar yr wyneb ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl.
2 A gwelais angel nerthol yn cyhoeddi â llef uchel, “Pwy sydd deilwng i agor y sgrôl ac i ddatod ei seliau?”
3 Nid oedd neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear a allai agor y sgrôl nac edrych arni.
4 Yr oeddwn i'n wylo'n hidl am na chafwyd neb yn deilwng i agor y sgrôl nac i edrych arni.
5 A dywedodd un o'r henuriaid wrthyf, “Paid ag wylo; wele, y mae'r Llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, wedi gorchfygu ac ennill yr hawl i agor y sgrôl a'i saith sêl.”
6 Gwelais Oen yn sefyll yn y canol, gyda'r pedwar creadur byw, rhwng yr orsedd a'r henuriaid. Yr oedd yr Oen fel un wedi ei ladd, ac yr oedd ganddo saith o gyrn a saith o lygaid; y rhain yw saith ysbryd Duw, sydd wedi eu hanfon i'r holl ddaear.
7 Daeth yr Oen a chymryd y sgrôl o law dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd.