1 Ar ôl hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear yn dal pedwar gwynt y ddaear, i gadw'r gwynt rhag chwythu ar y ddaear nac ar y môr nac ar un goeden.
2 A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sêl y Duw byw. Gwaeddodd â llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt awdurdod i niweidio'r ddaear a'r môr,
3 a dywedodd: “Peidiwch â niweidio na'r ddaear na'r môr na'r coed nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau.”
4 A chlywais rif y rhai a seliwyd, cant pedwar deg a phedair o filoedd wedi eu selio, o bob un o lwythau plant Israel.
5 O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio,o lwyth Reuben deuddeng mil,o lwyth Gad deuddeng mil,
6 o lwyth Aser deuddeng mil,o lwyth Nafftali deuddeng mil,o lwyth Manasse deuddeng mil,
7 o lwyth Simeon deuddeng mil,o lwyth Lefi deuddeng mil,o lwyth Issachar deuddeng mil,