10 Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel:“I'n Duw ni, sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen y perthyn y waredigaeth!”
11 Yr oedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a'r henuriaid a'r pedwar creadur byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addoli Duw
12 gan ddweud:“Amen. I'n Duw ni y bo'r mawla'r gogoniant a'r doethineb a'r diolcha'r anrhydedd a'r gallu a'r nerthbyth bythoedd! Amen.”
13 Gofynnodd un o'r henuriaid imi, “Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, pwy ydynt ac o ble y daethant?”
14 Dywedais wrtho, “Ti sy'n gwybod, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf, “Dyma'r rhai sy'n dod allan o'r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen.
15 “Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw,ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml,a bydd yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt.
16 Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy,ni ddaw ar eu gwarthaf na'r haulna dim gwres,