14 Dywedais wrtho, “Ti sy'n gwybod, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf, “Dyma'r rhai sy'n dod allan o'r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen.
15 “Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw,ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml,a bydd yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt.
16 Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy,ni ddaw ar eu gwarthaf na'r haulna dim gwres,
17 oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd yn eu bugeilio hwy,ac yn eu harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd,a bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid hwy.”