3 a dywedodd: “Peidiwch â niweidio na'r ddaear na'r môr na'r coed nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau.”
4 A chlywais rif y rhai a seliwyd, cant pedwar deg a phedair o filoedd wedi eu selio, o bob un o lwythau plant Israel.
5 O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio,o lwyth Reuben deuddeng mil,o lwyth Gad deuddeng mil,
6 o lwyth Aser deuddeng mil,o lwyth Nafftali deuddeng mil,o lwyth Manasse deuddeng mil,
7 o lwyth Simeon deuddeng mil,o lwyth Lefi deuddeng mil,o lwyth Issachar deuddeng mil,
8 o lwyth Sabulon deuddeng mil,o lwyth Joseff deuddeng mil,ac o lwyth Benjamin deuddeng mil wedi eu selio.
9 Ar ôl hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a'r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo.