1 Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am tua hanner awr.
2 Yna gwelais y saith angel sy'n sefyll gerbron Duw; a rhoddwyd iddynt saith utgorn.
3 Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor â thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd.
4 O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddïau'r saint.