4 Dywedwyd wrthynt am beidio â niweidio na phorfa'r ddaear na'r un planhigyn na choeden, ond yn unig y bobl nad oedd sêl Duw ganddynt ar eu talcennau.
5 Gorchmynnwyd iddynt beidio â'u lladd, ond eu poenydio am bum mis; a'u poenedigaeth hwy oedd fel poenedigaeth ysgorpion yn brathu rhywun.
6 Yn y dyddiau hynny bydd pobl yn chwilio am farwolaeth, ond ni ddônt o hyd iddi, yn chwenychu marw, ond bydd marwolaeth yn ffoi rhagddynt.
7 Yn yr olwg arnynt yr oedd y locustiaid yn debyg i geffylau wedi eu paratoi i ryfel. Ar eu pennau yr oedd megis coronau euraid, ac yr oedd eu hwynebau fel wynebau dynol,
8 a gwallt ganddynt fel gwallt merched, a'u dannedd fel dannedd llewod.
9 Ac yr oedd eu dwyfron fel dwyfronneg o haearn, a sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o gerbydau rhyfel, a'u ceffylau yn carlamu i'r frwydr.
10 Yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau yr oedd eu gallu i niweidio pobl am bum mis.