8 a gwallt ganddynt fel gwallt merched, a'u dannedd fel dannedd llewod.
9 Ac yr oedd eu dwyfron fel dwyfronneg o haearn, a sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o gerbydau rhyfel, a'u ceffylau yn carlamu i'r frwydr.
10 Yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau yr oedd eu gallu i niweidio pobl am bum mis.
11 Yn frenin arnynt yr oedd angel y dyfnder; ei enw mewn Hebraeg yw Abadon, ac yn yr iaith Roeg gelwir ef Apolyon.
12 Aeth y gwae cyntaf heibio; wele, daw eto ddau wae ar ôl hyn.
13 Seiniodd y chweched angel ei utgorn. Yna clywais lais o blith pedwar corn yr allor aur oedd gerbron Duw,
14 yn dweud wrth y chweched angel, yr un â'r utgorn ganddo: “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo ar lan yr afon fawr, afon Ewffrates.”