1 Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.
2 Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia:“Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaeni baratoi dy ffordd.
3 Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo’ ”—
4 ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau.
5 Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
6 Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd.