Marc 3 BCN

Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth

1 Aeth i mewn eto i'r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo.

2 Ac yr oeddent â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn.

3 A dywedodd wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, “Saf yn y canol.”

4 Yna dywedodd wrthynt, “A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?” Yr oeddent yn fud.

5 Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.

6 Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd.

Tyrfa ar Lan y Môr

7 Aeth Iesu ymaith gyda'i ddisgyblion i lan y môr, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea.

8 Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a'r tu hwnt i'r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud.

9 A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i'r dyrfa wasgu arno.

10 Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef.

11 Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, “Ti yw Mab Duw.”

12 A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â'i wneud yn hysbys.

Dewis y Deuddeg

13 Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato.

14 Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu

15 ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid.

16 Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr;

17 yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, “Meibion y Daran”;

18 ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot,

19 a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.

Iesu a Beelsebwl

20 Daeth i'r tŷ; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed.

21 A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, “Y mae wedi colli arno'i hun.”

22 A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”

23 Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24 Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll.

25 Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll.

26 Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno.

27 Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef.

28 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a'u cableddau, beth bynnag fyddant;

29 ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol.”

30 Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, “Y mae ysbryd aflan ynddo.”

Mam a Brodyr Iesu

31 A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw.

32 Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio.”

33 Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a'm brodyr?”

34 A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o'i gwmpas, dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i.

35 Pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16