Marc 8 BCN

Porthi'r Pedair Mil

1 Yn y dyddiau hynny, a'r dyrfa unwaith eto'n fawr a heb ddim i'w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac meddai wrthynt,

2 “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta.

3 Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell.”

4 Atebodd ei ddisgyblion ef, “Sut y gall neb gael digon o fara i fwydo'r rhain mewn lle anial fel hyn?”

5 Gofynnodd iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau.

6 Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron; ac fe'u gosodasant gerbron y dyrfa.

7 Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron.

8 Bwytasant a chael digon, a chodasant y tameidiau oedd yn weddill, lond saith cawell.

9 Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith.

10 Ac yna aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha.

Ceisio Arwydd

11 Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno.

12 Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. “Pam,” meddai, “y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon.”

13 A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.

Surdoes y Phariseaid a Herod

14 Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch.

15 A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.”

16 Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara.

17 Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig?

18 A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio?

19 Pan dorrais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?” Meddent wrtho, “Deuddeg.”

20 “Pan dorrais y saith i'r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?” “Saith,” meddent.

21 Ac meddai ef wrthynt, “Onid ydych eto'n deall?”

Iacháu Dyn Dall yn Bethsaida

22 Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef.

23 Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, “A elli di weld rhywbeth?”

24 Edrychodd i fyny, ac meddai, “Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch.”

25 Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell.

26 Anfonodd ef adref, gan ddweud, “Paid â mynd i mewn i'r pentref.”

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu

27 Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?”

28 Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi.”

29 Gofynnodd ef iddynt, “A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr ef, “Ti yw'r Meseia.”

30 Rhybuddiodd hwy i beidio â dweud wrth neb amdano.

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad

31 Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi.

32 Yr oedd yn llefaru'r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu.

33 Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. “Dos ymaith o'm golwg, Satan,” meddai, “oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.”

34 Galwodd ato'r dyrfa ynghyd â'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.

35 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw.

36 Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd?

37 Oherwydd beth a all rhywun ei roi'n gyfnewid am ei fywyd?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16