Marc 11 BCN

Yr Ymdaith Fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem

1 Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion,

2 ac meddai wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth wrth ichwi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma.

3 Ac os dywed rhywun wrthych, ‘Pam yr ydych yn gwneud hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn ôl yma yn union deg.’ ”

4 Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef.

5 Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?”

6 Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd.

7 Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.

8 Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd.

9 Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.

10 Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd;Hosanna yn y goruchaf!”

11 Aeth i mewn i Jerwsalem ac i'r deml, ac wedi edrych o'i gwmpas ar bopeth, gan ei bod eisoes yn hwyr, aeth allan i Fethania gyda'r Deuddeg.

Melltithio'r Ffigysbren

12 Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno.

13 A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gâi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys.

14 Dywedodd wrtho, “Peidied neb â bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!” Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando.

Glanhau'r Deml

15 Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,

16 ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml.

17 A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig:“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd,ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?”

18 Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.

19 A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.

Gwers y Ffigysbren Crin

20 Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21 Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”

22 Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw;

23 yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.

24 Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.

25 A phan fyddwch ar eich traed yn gweddïo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau.”

Amau Awdurdod Iesu

27 Daethant drachefn i Jerwsalem. Ac wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid yn dod ato,

28 ac meddent wrtho, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?”

29 Dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.

30 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol? Atebwch fi.”

31 Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’

32 Eithr a ddywedwn, ‘O'r byd daearol’?”—yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd mewn gwirionedd.

33 Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16