24 gan ddweud, “Beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.”
25 Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau: “Taw, a dos allan ohono.”
26 A chan ei ysgytian a rhoi bloedd uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono.
27 Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, “Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau'n ufuddhau iddo.”
28 Ac aeth y sôn amdano ar led ar unwaith trwy holl gymdogaeth Galilea.
29 Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan.
30 Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed;