8 Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”
9 Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan.
10 Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno.
11 A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”
12 Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch,
13 a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.
14 Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud: