1 Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn ôl ei arfer dechreuodd eu dysgu.
2 A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent.
3 Atebodd yntau hwy gan ofyn, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?”
4 Dywedasant hwythau, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith.”
5 Ond meddai Iesu wrthynt, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi.
6 Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy.
7 Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig,