18 A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.
19 Gwyddost y gorchmynion: ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ”
20 Meddai yntau wrtho, “Athro, yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid.”
21 Edrychodd Iesu arno ac fe'i hoffodd, a dywedodd wrtho, “Un peth sy'n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi.”
22 Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
23 Edrychodd Iesu o'i gwmpas ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd fydd hi i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!”
24 Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!