31 Ond bydd llawer sy'n flaenaf yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.”
32 Yr oeddent ar y ffordd yn mynd i fyny i Jerwsalem, ac Iesu'n mynd o'u blaen. Yr oedd arswyd arnynt, ac ofn ar y rhai oedd yn canlyn. Cymerodd y Deuddeg ato drachefn a dechreuodd sôn wrthynt am yr hyn oedd i ddigwydd iddo:
33 “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd;
34 a gwatwarant ef, a phoeri arno a'i fflangellu a'i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda.”
35 Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho, “Athro, yr ydym am iti wneud i ni y peth a ofynnwn gennyt.”
36 Meddai yntau wrthynt, “Beth yr ydych am imi ei wneud i chwi?”
37 A dywedasant wrtho, “Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant.”