37 A dywedasant wrtho, “Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant.”
38 Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, neu gael eich bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi ag ef?”
39 Dywedasant hwythau wrtho, “Gallwn.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Cewch yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, a bedyddir chwi â'r bedydd y bedyddir fi ag ef,
40 ond eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i'w roi; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer.”
41 Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth Iago ac Ioan.
42 Galwodd Iesu hwy ato ac meddai wrthynt, “Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr hwy yn dangos eu hawdurdod drostynt.
43 Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,