18 Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.
19 A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.
20 Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.
21 Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”
22 Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw;
23 yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.
24 Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.