19 A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.
20 Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.
21 Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”
22 Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw;
23 yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.
24 Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.
25 A phan fyddwch ar eich traed yn gweddïo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau.”