4 Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef.
5 Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?”
6 Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd.
7 Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.
8 Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd.
9 Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
10 Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd;Hosanna yn y goruchaf!”