16 a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.
17 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
18 A gweddïwch na ddigwydd hyn yn y gaeaf,
19 oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau'r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth.
20 Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau.
21 Ac yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Edrych, dacw ef’, peidiwch â'i gredu.
22 Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.