21 Ac yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Edrych, dacw ef’, peidiwch â'i gredu.
22 Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
23 Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw.
24 “Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw,“ ‘Tywyllir yr haul,ni rydd y lloer ei llewyrch,
25 syrth y sêr o'r nef,ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’
26 “A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant.
27 Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef.