33 Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.
34 Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio.
35 Byddwch wyliadwrus gan hynny—oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore—
36 rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu.
37 A'r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus.”